Y funud rwyt ti'n cydio yn y gyllell a'i rhoi yn dy boced, byddi naill ai'n ei defnyddio neu bydd un yn cael ei defnyddio arnat ti.
Dechreuodd Wes ymwneud â chyffuriau pan oedd yn ei arddegau, a dechrau cario cyllell i amddiffyn ei hun. Un noson, ar y trên adref ar ôl dosbarthu cyffuriau y tu allan i’w ardal, sylwodd ar dri bachgen yn ei ddilyn. Fe wnaethon nhw redeg ar ei ôl, ei ddal a’i drywanu.
Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, ar ôl llawdriniaeth i achub ei fywyd, deffrodd yn yr ysbyty i wynebau llawn pryder ac ofn ei fam-gu a’i dad-cu.
Gwybodaeth bwysig: Mae cynnwys y fideos hyn yn emosiynol iawn.

Roedd rhai pryderon bod rhai o fy organau wedi cael niwed. Roedd yn rhaid i mi ddefnyddio ffyn bagl achos prin roeddwn i'n gallu cerdded. Roeddwn yn eistedd gartref – yn eistedd yno yn teimlo atgasedd, yn teimlo'n flin drosta i fy hun. Roeddwn i'n teimlo euogrwydd, cywilydd. Roeddwn i'n teimlo embaras.
Wes
Cymorth a chyngor
Mae ffordd o fyw bywyd heb gyllyll bob amser ar gael. Os yw cyllyll yn effeithio ar eich bywyd neu fywyd rhywun rydych yn ei nabod, does dim angen i chi wynebu hyn ar eich pen ei hun.
Cymorth a chyngor