Mae pobl fel fi yma i chi. Rydyn ni am eich helpu. Mae dewis arall ar gael bob amser. Mae gobaith bob amser.
Mae Claire yn weithiwr ieuenctid yn Ne Cymru sydd wedi treulio 25 mlynedd yn helpu pobl sy’n ymwneud â chyffuriau a chyllyll i drawsnewid eu bywydau.
Yn ddiweddar, bu’n gweithio gyda bachgen 14 oed a gafodd dasg i ddosbarthu pecyn yn cynnwys gwerth £5,000 o gyffuriau, gan bobl roedd yn credu eu bod yn ffrindiau iddo. Gwnaeth y bobl hyn ddwyn oddi wrtho, a phan nad oedd yn gallu ad-dalu’r ddyled, cafodd diogelwch ei deulu ei fygwth, a dechreuodd gario cyllell i amddiffyn ei hun.
Erbyn hyn, ar ôl cymorth gan Claire, ynghyd ag amrywiaeth o wasanaethau cymorth lleol, mae’n amhosibl adnabod ei hen fywyd. Cafodd hyder a hunanbarch, yn ogystal ag ymdeimlad o bwrpas. Setlodd gyda phartner ac mae ganddynt fabi ar ei ffordd.
Noder: Mae’r fideo hwn yn cynnwys deunydd emosiynol iawn.
“Unwaith y byddwch yn rhan o fywyd gang, mae'n anodd iawn gadael. Ond gallwn ni eich helpu.”
Claire
Cymorth a chyngor
Mae ffordd o fyw bywyd heb gyllyll bob amser ar gael. Os yw cyllyll yn effeithio ar eich bywyd neu fywyd rhywun rydych yn ei nabod, does dim angen i chi wynebu hyn ar eich pen ei hun.
Cymorth a chyngor