Polisi Preifatrwydd
Er mwyn eich helpu i ddeall sut mae eich data personol yn cael eu prosesu, mae Uned Atal Trais Cymru a Heddlu De Cymru wedi nodi yn eu hysbysiad diogelu data pa wybodaeth y maent yn ei chadw, pam y mae ei hangen, y sail gyfreithiol dros ei phrosesu ac i bwy y gellir trosglwyddo’r data iddo. Mae’r hysbysiad hefyd yn nodi sut y caiff eich gwybodaeth ei diogelu ac am ba mor hir y bydd yn cael ei chadw Ein hysbysiadau:
Google Analytics
Rydym yn defnyddio Google Analytics i gasglu data dienw ar bobl sy’n ymweld â’n gwefan.
Cliciwch yma i weld trosolwg o breifatrwydd yn Google.
Rhestr bostio
Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio, dyma’r categorïau o ddata personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y gwasanaeth hwn:
- Enw
- Cyfeiriad e-bost
Nid oes angen i chi gofrestru ar gyfer y rhestr bostio i gael adnoddau #DdimYrUn.
Pam rydym yn casglu’r wybodaeth hon?
Rydym yn casglu data ar unigolion am y prif resymau canlynol:
- Er mwyn gallu cyfathrebu â phobl sy’n defnyddio adnoddau #DdimYrUn
- Er mwyn anfon gwybodaeth berthnasol ac angenrheidiol am weithgareddau sydd i ddod a deunydd marchnata
- At ddibenion ymchwil a gwerthuso. Pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer ein rhestr bostio, efallai y byddwn yn gofyn i chi gwblhau arolygon neu roi adborth er mwyn i ni allu deall sut mae adnoddau #DdimYrUn yn cael eu defnyddio a pha welliannau y gallem eu gwneud.
Beth yw’r sail gyfreithiol dros gasglu’r data hyn?
- Y sail gyfreithiol dros brosesu lluniau a deunydd marchnata yw Cydsyniad.
- Nid ydym yn prosesu unrhyw ddata heb gydsyniad penodol y rhiant/gwarcheidwad ar gyfer plant dan 16 oed sy’n dal i fod mewn addysg orfodol.
Sut y bydd Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru yn proseau’r data?
- Bydd Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i roi gwybodaeth i chi am Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru ac i anfon deunydd marchnata atoch am y cyfleoedd sydd ar gael os byddwch wedi dewis peidio â chael deunydd cyfathrebu o’r fath.
- Efallai y bydd Uned Atal Trais Cymru yn defnyddio’r wybodaeth hon i greu cronfa ddata o bobl sydd â diddordeb yn ymgyrch #DdimYrUn. Dim ond aelodau o staff Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru a thrydydd partïon a gontractiwyd i gynnal gweithgareddau fydd yn gallu cael gafael ar y wybodaeth hon.
- Cesglir y data drwy Mailchimp a chânt eu storio ynddo. Anfonir negeseuon e-bost marchnata drwy Mailchimp. Wrth anfon negeseuon e-bost, bydd Mailchimp yn cynnwys giffiau, neu ffaglau gwe, un picsel yn awtomatig. Ffeiliau graffig bach iawn yw’r rhain sy’n cynnwys dynodyddion unigryw sy’n galluogi Mailchimp i weld pan fydd Cyswllt wedi agor e-bost neu wedi cicio ar ddolenni penodol. Mae’r technolegau hyn yn cofnodi cyfeiriad e-bost, cyfeiriad IP, dyddiad ac amser sy’n gysylltiedig â phob achos o agor a chlicio ar gyfer ymgyrch i bob Cysylltiad. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch bolisi cwcis MailChimp.
- Bydd pob adroddiad mewnol ac ariannol sy’n defnyddio’r data a gasglwyd yn gwneud hynny ar ffurf gyfanredol, gan olygu mai dim ond cyfansymiau a ddangosir. Mae hyn yn golygu na fydd adroddiad byth yn datgelu data unigolion.
Pa mor hir y bydd Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru yn cadw’r wybodaeth?
- Yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a GDPR y DU, dim ond am gyhyd ag y bydd eu hangen arnom y byddwn yn cadw data. Byddwn yn adolygu’r data rydym yn ei chadw bob blwyddyn ac yn dileu unrhyw ddata nad oes eu hangen arnom mwyach.
A ydych yn trosglwyddo data personol y tu allan i’r UE?
Cedwir data personol (enw, cyfeiriad e-bost) yn Mailchimp. Bydd Mailchimp yn prosesu ac yn cadw data o fewn yr Unol Daleithiau.
Beth yw fy hawliau?
O dan y GDPR, mae gennych hawliau yn ymwneud â’ch data personol, a allai gynnwys: gwrthwynebu prosesu eich gwybodaeth bersonol, cael mynediad at eich gwybodaeth bersonol, ei chywiro, ei dileu, ei chyfyngu a’i throsglwyddo.
Cysylltwch â communications@south-wales.police.uk i wneud cais.
Diogelwch data
Mae deddfwriaeth diogelu data yn ei gwneud yn ofynnol i Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru gadw eich gwybodaeth yn ddiogel. Mae hyn yn golygu y caiff eich cyfrinachedd ei barchu, ac y caiff pob mesur priodol ei roi ar waith i atal mynediad heb awdurdod at eich data a’u hatal rhag cael eu datgelu. Dim ond aelodau o staff y mae angen iddynt weld rhannau perthnasol o’ch gwybodaeth fydd yn cael eu hawdurdodi i wneud hynny. Bydd yr holl ddata personol a gaiff eu storio’n electronig yn destun cyfrinair a/neu gyfyngiadau diogelwch eraill, a bydd ffeiliau papur yn cael eu storio mewn ardaloedd diogel â mynediad a reolir.
Mae’n bosibl y caiff rhywfaint o ddata eu prosesu ar ran Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru gan sefydliad a gontractiwyd at y diben hwnnw. Bydd sefydliadau sy’n prosesu data personol ar ran y rhaglen yn rhwym wrth Gytundeb Prosesu Data a fydd yn amlinellu eu rhwymedigaeth i brosesu data personol yn unol â phob deddfwriaeth diogelu data.
Sut y gallaf gwyno?
Os byddwch yn anfodlon ar y ffordd y mae eich data personol wedi cael eu prosesu, gallwch gysylltu â communications@south-wales.police.uk yn y lle cyntaf.
Os byddwch yn anfodlon o hyd, yna bydd gennych yr hawl i wneud cais yn uniongyrchol i’r Comisiynydd Gwybodaeth am benderfyniad. Gellir cysylltu â’r Comisiynydd Gwybodaeth yn:
Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF