Pecyn addysgwyr
Adnoddau i addysgu pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.
Yn y pecyn
- Profiadau bywyd go iawn
- Y ffeithiau
- Cwis
- Cynllun gwers
Lawrlwythwch y pecyn
Dewiswch un o’r canlynol sy’n berthnasol i chi i’n helpu ni i ddeall pwy sy’n lawrlwytho’r wybodaeth:
Clwb Ieuenctid/Chwaraeon – Lawrlwythwch y pecyn
Ysgol – Lawrlwythwch y pecyn
Rhiant – Lawrlwythwch y pecyn
Dan 18 oed – Lawrlwythwch y pecyn
Arall – Lawrlwythwch y pecyn
Feedback form
Os ydych yn rhoi sesiwn i blant a phobl ifanc, cwblhewch y ffurflen hon a’i dychwelyd i: PHW.ViolencePreventionUnit@wales.nhs.uk
1. Profiadau bywyd go iawn
Mae’r fideos hyn yn trafod profiadau go iawn dioddefwyr troseddau’n ymwneud â chyllyll a’u teuluoedd yn Ne Cymru.
Amcanion dysgu
Bydd y fideos hyn yn helpu pobl ifanc i ddeall:
- canlyniadau troseddau’n ymwneud â chyllyll
- yr effeithiau o ganlyniad i droseddau’n ymwneud â chyllyll a’u heffaith ar deulu a ffrindiau
- sut y gall rhywun golli rheolaeth ar sefyllfaoedd yn gyflym
- peryglon cario cyllell.
Gwybodaeth bwysig
Mae cynnwys y fideos hyn yn emosiynol iawn. Dylech arfer eich barn broffesiynol wrth benderfynu a yw’r adnodd hwn yn addas i’r bobl ifanc yn eich lleoliad.
Pwyntiau trafod
- Beth yw’r effaith ar deulu a ffrindiau ar ôl pob trosedd yn ymwneud â chyllell?
- Beth mae’r bobl yn y fideos am i chi ei wybod am gario cyllell?
- A oedd y bobl hynny a oedd yn cario cyllell yn fwy diogel am eu bod yn gwneud hyn?
- Beth y gellid bod wedi ei wneud i atal troseddau’n ymwneud â chyllyll rhag digwydd?
- Sut y gallwch roi gwybod am ddigwyddiad yn gwbl ddienw?
Rhiant dioddefwr trosedd yn ymwneud â chyllell
Ym mis Awst 2019, cafodd mab Emma, Harry, ei drywanu i farwolaeth yn Nociau’r Barri. Roedd yn 17 oed.
Trawsgrifiad o’r fideo: Cymraeg / Saesneg
Dioddefwr trosedd yn ymwneud â chyllell
Dechreuodd Wes ymwneud â chyffuriau pan oedd yn ei arddegau, a dechrau cario cyllell i amddiffyn ei hun. Un noson, ar y trên adref ar ôl dosbarthu cyffuriau y tu allan i’w ardal, sylwodd ar dri bachgen yn ei ddilyn. Fe wnaethon nhw redeg ar ei ôl, ei ddal a’i drywanu.
Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, ar ôl llawdriniaeth i achub ei fywyd, deffrodd yn yr ysbyty i wynebau llawn pryder ac ofn ei fam-gu a’i dad-cu.
Trawsgrifiad o’r fideo: Cymraeg / Saesneg
Dioddefwr trosedd yn ymwneud â chyllell
Roedd Dai yn adfer ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol pan gafodd ei alw i fflat yn Abertawe i roi benthyg arian i rywun. Tric oedd y cyfan. Wrth iddo adael yr adeilad, roedd pedwar o bobl yn aros amdano y tu allan i’r lifft ar y llawr gwaelod Roedden nhw’n chwilio am gyffuriau.
Am 14 munud, fe wnaethon nhw ei dagu, ei guro, a’i drywanu.
2. Y ffeithiau
Beth mae’r gyfraith yn ei ddweud
- Mae cario cyllell heb reswm da yn erbyn y gyfraith, oni bai bod gan y gyllell lafn y gellir ei chau â llaw
- Os canfyddir eich bod yn cario cyllell, gallech dreulio hyd at bedair blynedd yn y carchar.
- Gallech chi gael cofnod troseddol o ganlyniad i gario cyllell.
- Mae cario cyllell gloi yn gyhoeddus heb reswm da yn erbyn y gyfraith. Mae gan y rhain lafnau y gellir eu cloi drwy wasgu botwm. Gall hyn gynnwys cyllell amlddyfais sy’n cynnwys pethau eraill fel agorydd tun neu sgriwdreifer.
- Mae rhai mathau o gyllyll wedi’u gwahardd yn gyfan gwbl yn y DU, hyd yn oed os ydych yn eu cadw yn eich cartref. Mae’r rhain yn cynnwys cyllyll lledu, cyllyll sombi, cyllyll cudd a chyllyll clec.
- Mae gan yr heddlu y pŵer i stopio a chwilio unrhyw un os bydd swyddogion yn credu bod rhywun yn cario arf.
Beth yw ‘rheswm da’ dros gario cyllell?
Os canfyddir eich bod yn cario cyllell, bydd llys yn penderfynu a oes gennych ‘reswm da’ dros wneud hynny. Gallai hyn gynnwys y canlynol:
- rydych yn mynd â hi i’w defnyddio yn y gwaith
- rydych yn mynd â hi i’w defnyddio mewn theatr, ffilm neu raglen deledu
- rydych yn mynd â hi i oriel neu amgueddfa i’w harddangos
Beth sydd wedi’i ddosbarthu’n arf?
Mae cario arf ymosodol mewn man cyhoeddus heb reswm da yn erbyn y gyfraith.
Ystyr arf ymosodol yw unrhyw eitem sydd wedi cael ei gwneud neu ei haddasu i achosi anaf. Gall rhywbeth gael ei ddosbarthu’n arf ymosodol hyd yn oed os nad oes ganddo lafn na blaen. Nid dim ond cyllyll mae hyn yn ei gynnwys ond hefyd:
- dyrnau haearn
- chwythbibau
- pastynau
- arfau seren
- arfau crafanc troed (footclaws).
Y gwirionedd am gario cyllell
- Drwy gario cyllell, byddwch yn fwy tebygol o gael eich anafu neu eich trywanu eich hun.
- Mae’n hawdd colli rheolaeth ar sefyllfaoedd pan fydd pobl yn cario arfau.
- Ni fydd pob person ifanc sy’n cario arfau yn bwriadu eu defnyddio. Ond os bydd person ifanc yn cario arf ac yn mynd i ddadl â rhywun, bydd yn fwy tebygol y bydd yn colli rheolaeth ar y sefyllfa ac y bydd rhywun yn defnyddio cyllell.
- Gall cofnod troseddol eich atal rhag cael eich derbyn i’r coleg neu’r brifysgol, cael y swydd a ddymunwch, neu deithio i rai gwledydd, fel UDA, Canada neu Awstralia. Hyd yn oed os byddwch yn cario gwn ffug, bydd pobl eraill, gan gynnwys yr heddlu, yn ymateb yn yr un ffordd, p’un a yw yn un go iawn ai peidio.
- Mae llawer o leoedd bellach yn defnyddio technoleg sgrinio i ganfod arfau. Os canfyddir eich bod yn cario cyllell neu ddryll, cewch eich arestio a’ch erlyn.
3. Cwis
Isod mae rhai cwestiynau i’ch helpu i ddeall troseddau’n ymwneud â chyllyll a chanlyniadau cario cyllell yn well.
Cwestiynau
- Faint o flynyddoedd yn y carchar y gallwch eu cael am gario cyllell? 1, 2 neu 4?
- Gwir neu anwir: Mae bod yn berchen ar rai arfau crefft ymladd yn erbyn y gyfraith
- Gwir neu anwir: Byddwch bob amser mewn trafferth os byddwch yn rhoi arf anghyfreithlon i’r heddlu.
- ‘Gallaf amddiffyn fy hun drwy gario cyllell er fy mod i ddim yn bwriadu ei defnyddio.’
- ‘Mae’r rhan fwyaf o bobl yr un oedran â fi yn cario cyllell, felly bydd angen i fi gario un hefyd.’
- ‘Fydda i ddim yn mynd i drwbwl os caria i gyllell, dim ond os bydda i’n ei defnyddio.’
Atebion
- Pedwar. Gallwch gael hyd at bedair blynedd yn y carchar am gario cyllell, hyd yn oed os nad ydych yn ei defnyddio.
- Gwir. Mae bod yn berchen ar rai arfau fel arfau seren miniog, cyllyll lledu, cleddyfau crwm a mwy, hyd yn oed yn eich cartref preifat, yn erbyn y gyfraith bellach o dan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019.
- Anwir. Mae Heddlu De Cymru yn cynnal amnestau cyllyll yn rheolaidd, pan fyddwch yn gallu ildio’ch arfau yn ddiogel a heb oblygiadau. Fyddwch chi ddim yn mynd i drwbl am wneud hyn Mae manylion am yr amnest nesaf ar ein gwefan.
- Anwir. Mae cario cyllell yn ei gwneud yn fwy tebygol y byddwch yn cael eich anafu.
- Anwir. Dim ond 1% o bobl ifanc sy’n cario cyllell. Peidiwch â bod yn un ohonyn nhw.
- Anwir. Mae gan yr heddlu y pŵer i stopio a chwilio unrhyw un os bydd swyddogion yn credu bod rhywun yn cario arf. Os canfyddir eich bod yn cario cyllell, cewch eich arestio a’ch erlyn, a gallech wynebu hyd at bedair blynedd yn y carchar.
Cymorth a chyngor
Mae ffordd o fyw bywyd heb gyllyll bob amser ar gael. Os yw cyllyll yn effeithio ar eich bywyd neu fywyd rhywun rydych yn ei nabod, does dim angen i chi wynebu hyn ar eich pen ei hun.
Cymorth a chyngor