School of Hard Knocks
Elusen genedlaethol yw School of Hard Knocks (SOHK) sy’n gweithio gydag oedolion a phobl ifanc 11-16 oed sy’n wynebu anghydraddoldeb. Mae’n newid bywydau drwy gampau heriol, yn ogystal â mentora grŵp ac un i un.
Ymgysylltu â grwpiau ag amrywiaeth o anghenion gwahanol
Gweithiodd Heddlu De Cymru a’r Uned Atal Trais gyda Neil Cole, Hwylusydd Arweiniol Schools Cymru, SOHK.
“Darllenais yr adnoddau a sylweddolais eu bod nhw’n addas iawn i’r grwpiau o bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw,” meddai Neil. “Mae gan y grwpiau amrywiaeth o anghenion, o ddiffyg hyder i byliau treisgar tuag at eraill.”
Mae SOHK yn gweithio gyda nhw’n wythnosol, gan gynnig cwricwlwm o sesiynau datblygu personol, yn ogystal â sesiynau corfforol gan ddefnyddio gwerthoedd rygbi fel adnodd.
Dangos peryglon cario cyllell
Ar gyfer ei sesiynau #DdimYrUn, defnyddiodd Neil y cwestiynau ar y wefan i greu cwis, a dangosodd un o’r fideos ‘profiadau go iawn’. Yna, defnyddiodd yr un fformat gyda phob un o’i grwpiau drwy’r wythnos.
Dywedodd mai’r nod oedd pwysleisio peryglon cario cyllell ac ysgogi trafodaeth gyda’r bobl ifanc y mae’n gweithio gyda nhw.
“Gwnaethon nhw ddangos llawer iawn o barch”
Roedd Neil yn teimlo bod y sesiynau wedi mynd yn dda.
“Roedd y cwis ar-lein yn ffordd wych o ennyn diddordeb ein grwpiau,’ meddai. ‘Gwnaeth y clipiau fideo o brofiadau go iawn godi ofn ar bob un ohonyn nhw, a gwnaethon nhw ddangos llawer iawn o barch wrth eu gwylio (gallech chi glywed pin yn disgyn!).”
“Roedd y sesiynau holi ac ateb dilynol ymysg y rhai gorau rydyn ni wedi’u cynnal gyda’n grwpiau. Cefais fy synnu pa mor agored a gonest oedden nhw.”
Treiddio i bynciau pwysig eraill
Gyda rhai o’r grwpiau, arweiniodd y trafodaethau at linellau cyffuriau a delio, ac ystyriwyd y themâu hyn ymhellach mewn sesiynau dilynol.
“Bydda i’n sicr yn defnyddio’r adnoddau gyda grwpiau eraill yn y dyfodol,” meddai Neil. “Y tro nesaf, efallai y byddwn i’n eu rhannu’n grwpiau i drafod cwestiynau’r cwis, ond roedden ni’n brin o amser.”
Unrhyw gyngor i athrawon neu weithwyr proffesiynol eraill sy’n awyddus i ddefnyddio’r ymgyrch yn eu gwaith?
“Byddwch yn barod i’r trafodaethau arwain at bynciau eraill, fel delio cyffuriau a llinellau cyffuriau.”