PCSO De Cymru

Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) yn pontio rhwng yr heddlu a’r gymuned leol, a gall eu rôl gynnwys ymgysylltu â phobl ifanc mewn ysgolion.

Cyfle i godi ymwybyddiaeth

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae PCSO De Cymru Tom Lindsay wedi defnyddio pecyn addysg #DdimYrUn ac wedi rhoi cyflwyniadau i ddisgyblion blwyddyn 6, a oedd yn barod i wrando ac ystyried y wybodaeth.

Dywedodd, ‘Mae ymgyrch #DdimYrUn yn ymgyrch wych i addysgu pobl ifanc am beryglon cario cyllell’.

“Mae troseddau cyllyll yn fygythiad newydd a chynyddol i blismona, felly mae cael cyfle i godi ymwybyddiaeth ac addysgu pobl ifanc am y broblem yn bwysig.”

Gweld y darlun ehangach

Roedd Tom o’r farn bod y fideos o brofiadau go iawn yn emosiynol iawn ac yn pwysleisio’r neges bod cario cyllell yn gallu arwain at ddigwyddiadau trasig sy’n newid bywyd.

Dywedodd, ‘Mae cydbwysedd rhwng gwybodaeth drawiadol a ffeithiau diddorol sy’n helpu i herio plant i feddwl am ddarlun ehangach cario cyllyll’.

‘Mae’r holl adborth rwyf wedi ei gael wedi bod yn gadarnhaol, ac mae angen lledaenu neges ymgyrch #DdimYrUn fel bod pob person ifanc yn gallu dysgu am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.’

Awgrymiadau defnyddiol Tom ar gyfer cynnal sesiwn #DdimYrUn

  1. Gwnewch y sesiwn yn rhyngweithiol drwy ddefnyddio adnoddau fel y cwis.
  2. Ceisiwch deilwra’r sesiwn i’ch cynulleidfa – a oes unrhyw enghreifftiau o droseddau cyllyll yn eu hardal leol?
  3. Defnyddiwch yr astudiaethau achos bywyd go iawn – dangoswch y fideos a chaniatewch gwestiynau.
  4. Anogwch drafodaeth agored drwyddi draw er mwyn ennyn diddordeb y rhai sy’n cymryd rhan.

Erthyglau diweddaraf

Four students sitting around a table chatting.
Media Academy Cymru
Fearless
Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.