Media Academy Cymru
Mae Stephen Pellow, Gweithiwr Atal Arfau Media Academy Cymru, yn defnyddio adnoddau #DdimYrUn fel rhan o’i waith rheolaidd gyda phobl ifanc.
Yn ystod ei weithdai, mae’n rhannu fideo Emma Baker er mwyn atgoffa pob cyfranogwr y gall cario arfau arwain at oblygiadau difrifol, nid yn unig i’r person ifanc. Mae pob un yn yr ystafell yn tawelu ac yn canolbwyntio’n llwyr ar yr hyn sydd ganddi i’w ddweud.
‘Mae’n adnodd ardderchog sy’n hawdd ei ddefnyddio, ac mae’n berthnasol iawn i fy ngwaith,’ dywedodd Stephen. ‘Mae gallu cyfeirio at y fideo hwn yn gwneud fy rôl yn haws.’
Mae’n anelu at ddod ag ymdeimlad o realiti i’w weithdai, gan helpu pobl ifanc i ddeall a theimlo empathi er mwyn sicrhau na fyddant yn gwneud yr un camgymeriadau eu hunain.
‘Rwy’n argymell defnyddio’r adnoddau hyn – manteisiwch i’r eithaf ar y wybodaeth a’r straeon a gyflwynir,’ dywedodd. ‘Maent yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn eich helpu i sicrhau bod y bobl ifanc yn ymgysylltu â’r pwnc.’