Fearless

Mae Kendra Ross, un o Weithwyr Allgymorth Ieuenctid Fearless (rhan o Crimestoppers), yn defnyddio ymgyrch #DdimYrUn yn rheolaidd i esbonio pynciau cymhleth fel menter ar y cyd a llinellau cyffuriau wrth gynnal gweithdai ar droseddau sy’n gysylltiedig â chyllyll a chyffuriau i bobl ifanc.

Arddangos y realiti llym

Roedd Kendra am ddefnyddio’r ymgyrch i esbonio bod troseddau cyllyll yn broblem yng Nghymru. Y nod, meddai, oedd arddangos y realiti llym, gan ddangos bod bob amser ffordd arall o ymdrin â sefyllfa, a bod pobl a all helpu, ac nad oes byth angen i bobl ifanc droi at droseddau cyllyll. Ond nid yw bob amser yn neges hawdd ei chyfleu.

“Gall codi ymwybyddiaeth o droseddau cyllyll fod yn anodd. Weithiau, dyw gweithwyr proffesiynol eraill a phobl iau ddim yn sylweddoli realiti’r sefyllfa.”

Defnyddio enghreifftiau leon i ddangos sefyllfa

Ychwanegodd Kendra nad yw pobl ifanc yn cydnabod y gall y realiti llym hwn ddigwydd mewn mannau sy’n lleol iddynt – fel Caerdydd – a bod y ffaith mai dim ond am enghreifftiau o droseddau cyllyll mewn dinasoedd mwy yn y DU y maent yn clywed, yn gwneud pethau’n waeth.

Dywedodd, “Mae defnyddio rhai o straeon ymgyrch #DdimYrUn wedi bod yn help mawr i ddangos y sefyllfa [yma yng Nghymru]”.

“Pan fydda i’n cynnal sesiynau ar linellau cyffuriau, bydda i bob amser yn sôn am Harry Baker fel enghraifft leol, oherwydd, unwaith eto, gall llinellau cyffuriau ymddangos fel byd arall i rai pobl ifanc yn ein cymunedau lleol.”

“Wedi dweud hynny, mae rhai pobl ifanc yng Nghaerdydd yn gwybod yn iawn beth yw llinellau cyffuriau ond mae’n ymddangos bod elfen o ymffrostio yn gysylltiedig â nhw, wrth iddynt ddweud ‘fyddai neb yn fy nhwyllo i, byddwn i’n iawn’, ac mae stori Harry Baker yn dangos nad felly y mae.

“Rwyf hefyd yn defnyddio deunydd CCTV yn ystod fy sesiynau ar droseddau cyllyll. Mae’n helpu i ddangos enghraifft go iawn o fenter ar y cyd, am fod pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd credu bod yr egwyddor yn bodoli.”

Mae bod yn agored ac yn onest yn allweddol

Mae’r adnoddau yn effeithiol ac yn help mawr,” meddai Kendra. “Mae pobl ifanc yn cael eu synnu, ac maen nhw fel arfer yn ddiolchgar ar ddiwedd y sesiwn am y wybodaeth newydd, a’r ffaith nad wyf yn gwneud i ddim swnio’n well nag y mae, sy’n gallu bod yn nawddoglyd iawn.”

Unrhyw gyngor i athrawon neu weithwyr proffesiynol eraill sy’n awyddus i ddefnyddio’r ymgyrch yn eu gwaith?

“Peidiwch â cheisio gwneud i ddim swnio’n well nag y mae,” meddai. “A byddwch yn agored ac yn onest gyda phobl ifanc.”

Ar gyfer rhieni a gweithwyr ieuenctid

Cyngor gan weithwyr proffesiynol ar y ffordd orau o fynd ati i gael sgwrs onest am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.

Ar gyfer rhieni a gweithwyr ieuenctid

Cymorth a chyngor

Mae ffordd o fyw bywyd heb gyllyll bob amser ar gael. Os yw cyllyll yn effeithio ar eich bywyd neu fywyd rhywun rydych yn ei nabod, does dim angen i chi wynebu hyn ar eich pen ei hun.

Cymorth a chyngor

Erthyglau diweddaraf

Four students sitting around a table chatting.
Media Academy Cymru
PCSO De Cymru
Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.