Cymorth a chyngor
Mae ffordd o fyw bywyd heb gyllyll bob amser ar gael. Os yw cyllyll yn effeithio ar eich bywyd neu fywyd rhywun rydych yn ei nabod, does dim angen i chi wynebu hyn ar eich pen ei hun.
Siaradwch â rhywun rydych yn ymddiried ynddo/ynddi am eich pryderon.
Gyda phwy y galla i siarad
Mae rhywun rwy’n ei nabod yn cario cyllell
Siaradwch ag oedolion y gallwch ymddiried ynddo/ynddi. Gallai hyn gynnwys rhywun yn eich teulu, un o’ch athrawon yn yr ysgol, Swyddog Ysgol yr Heddlu, neu weithiwr ieuenctid.
Os nad yw’n achos brys, gallwch gysylltu â Fearless yn gwbl ddienw i roi gwybod am eich pryderon.
Rwy’n teimlo dan bwysau i gario cyllell
Y peth gorau y gallwch chi ei wneud yw siarad ag oedolyn rydych yn ymddiried ynddo/ynddi am y sefyllfa. Os teimlwch na allwch wneud hynny, beth am:
Meic
Llinell gymorth ddienw a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc.
- Ffoniwch 080880 23456 am ddim unrhyw ddiwrnod rhwng 8 y bore a hanner nos
- Gallwch siarad ar-lein un i un ag aelod o’r tîm rhwng 8 y bore a hanner nos.
- Anfonwch neges destun i 84001 unrhyw bryd – mae am ddim ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn.
- Ewch i wefan Meic i gael cymorth
Childline
gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim lle y gellir trafod unrhyw beth.
- 0800 1111
- Ewch i wefan Childline i gael cymorth
Mae rhywun wedi cael ei drywanu
Ffoniwch 999 ar unwaith Rhowch fanylion am y digwyddiad er mwyn i help gael ei drefnu mor gyflym â phosibl.
Mae’r gwefannau canlynol yn rhoi gwybodaeth am sut i helpu rhywun sydd wedi cael ei drywanu:
Cymorth i ddioddefwyr
Elusen annibynnol yw Cymorth i Ddioddefwyr sy’n cefnogi dioddefwyr troseddau a digwyddiadau trawmatig. Mae’n cynnig cymorth arbenigol i ddioddefwyr troseddau ifanc a rhieni a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phobl ifanc hefyd.
- Cymorth De Cymru – 0300 303 0161
- Oriau arferol – dydd Llun i ddydd Gwener 08:00-20:00, dydd Sadwrn 09:00-17:00
- Cymorth y tu allan i oriau – 0808 168 9111
Media Academy Cymru – Cymorth i Blant a Phobl Ifanc
Mae Media Academy Cymru yn cynnal mentrau ledled De Cymru i ymgysylltu’n wirfoddol â phlant a phobl ifanc sydd naill ai’n cario arfau neu’n ystyried gwneud hynny, ac i newid agweddau ac ymddygiad mewn perthynas â chario arfau ymhlith plant a phobl ifanc.
P’un a ydych yn blentyn, yn berson ifanc, yn rhiant neu’n weithiwr proffesiynol sy’n chwilio am gyngor neu gymorth arbenigol i’ch helpu chi neu anwylyd i symud ymlaen o gario arfau, gall Media Academy Cymru helpu.
Ewch i https://mediaacademycymru.wales i gael rhagor o wybodaeth.
Mae Media Academy Cymru hefyd yn cynnig gwasanaeth gwaredu arfau De Cymru.
Gwasanaeth gwaredu arfau De Cymru
Mae Media Academy Cymru yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i annog pobl i ildio’u harfau drwy gynnig gwasanaeth gwaredu arfau. Os oes gennych arf ymosodol yr hoffech gael gwared arno ond nad ydych yn teimlo’n gyfforddus yn mynd â’r arf i orsaf yr heddlu eich hun, gall staff MAC ei gasglu gennych, ble bynnag y byddwch chi a chael gwared arno’n ddiogel ar eich rhan. Mae’r broses hon yn gyfrinachol ac ni fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chasglu.
I gael rhagor o wybodaeth neu i ildio arf drwy MAC, cysylltwch â ni drwy e-bost: emily@mediaacademycymru.wales
Kicks – Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd
Rhaglen i bobl ifanc yn Ne Cymru yw Kicks. Mae’n cynnig sesiynau pêl-droed am ddim a chyfleoedd ar gyfer datblygiad personol.
Cofrestrwch i ymuno yn y gweithgareddau ar wefan Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd