Amdanom
Mae #DdimYrUn yn ymgyrch ymyrraeth gynnar gyda’r nod o berswadio pobl ifanc 11 i 16 oed i beidio â chario cyllyll.
Mae’r ymgyrch yn cael ei harwain gan Heddlu De Cymru ac Uned Atal Trais Cymru gyda chyllid gan Gomisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru. Cafodd ei llywio gan gyngor a phrofiadau plant, pobl ifanc, a gweithwyr addysg proffesiynol a gweithwyr ieuenctid yn Ne Cymru.
Trwy drafodaeth onest ac enghreifftiau o brofiadau bywyd go iawn, rydym yn gweithio i addysgu pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario cyllell.
Ydych chi’n rhiant, gofalwr, athro neu arweinydd grŵp sy’n chwilio am gyngor a chefnogaeth? Gall adnoddau addysg #DdimYrUn i athrawon, rhieni a gweithwyr ieuenctid helpu i ysgogi trafodaeth a myfyrdod y tu mewn i’r ystafell ddosbarth a’r tu allan iddi.
Gall heddluoedd ar draws y DU ddefnyddio adnoddau ymgyrch #DdimYrUn i gefnogi eu hymgysylltiad â’r cyhoedd a helpu i ddod â throseddau cyllyll i ben yn eu hardaloedd.
Cysylltwch â
communications@south-wales.police.uk
Faint o bobl ifanc sy'n cario cyllell?
Yn ôl y cyfrifiad diwethaf, mae ardal De Cymru yn gartref i 358,208 o bobl 10-29 oed.
Yn ystod y blynyddoedd ers y cyfrifiad, cafodd 1804 o unigolion yn y grŵp oedran hwnnw eu canfod ag eitem lafnog yn eu meddiant. Mae hyn yn cynrychioli 0.5% o’r boblogaeth.
Mae’n amhosibl i’r heddlu wybod am bob unigolyn sy’n cario cyllell. Fodd bynnag, o gyfuno’r uchod â ffynonellau data eraill, gallwn amcangyfrif fod rhyw 1% o bobl ifanc yn cario cyllell yn ardal De Cymru.
Mae hyn yn golygu nad yw’r mwyafrif llethol o bobl ifanc yn cario cyllell a bod troseddau’n ymwneud â chyllyll yn parhau i fod yn gymharol brin yn Ne Cymru. Byddai un digwyddiad yn ymwneud â chyllyll yn ormod.
Ffynonellau
Y Swyddfa Gartref a gefnogir gan Arolwg Troseddu Prydain:
Dywedodd un o bob 100 o blant eu bod wedi cario cyllell er mwyn eu diogelwch eu hunain yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yr Uned Atal Trais a Heddlu De Cymru:
O 1 Ionawr 2009 – hyd heddiw: cafodd 1804 o ‘droseddau o feddu ar eitem lafnog’ eu cyflawni gan droseddwyr unigryw rhwng 10 a 29 oed. Poblogaeth yr ystod oedran honno ar gyfer Heddlu De Cymru yw 358,208. Mae hynny’n 0.5% o boblogaeth ifanc De Cymru sydd wedi cario cyllell yn ystod y degawd diwethaf.
O’r flwyddyn ariannol ddiwethaf: O blith y 7,007 o bobl a gafodd eu chwilio, roedd 85 ohonynt yn cario cyllell (1.2%). Mae’n rhaid bod gan swyddogion sail resymol dros amau y byddant yn dod o hyd i’r eitem gan y rhai y maent yn eu stopio a’u chwilio.
Archwiliwch #DdimyrUn
Helpu i hyrwyddo ein hymgyrch
Dyma'r ffyrdd y gallwch helpu i gefnogi'r gwaith rydym yn ei wneud i atal troseddau sy'n ymwneud â chyllyll.
Pecyn cymorth i heddluoedd y DU
Helpu i fynd i'r afael â throseddau sy'n ymwneud â chyllyll yn eich ardal heddlu â'r adnoddau arbenigol hyn a fydd yn ymgysylltu â'r cyhoedd, yn llywio trafodaethau ac yn addysgu pobl ifanc.