Helpu i hyrwyddo ymgyrch #DdimYrUn
Hoffech chi gymryd rhan a chefnogi’r gwaith rydym yn ei wneud? Mae sawl ffordd y gallwch helpu.
Rhannwch ein hymgyrch ar draws eich llwyfannau cyfryngau cymdeithasol
Rydym wedi cyrraedd 100,000 o bobl dros Facebook, Instagram a TikTok. Gyda’ch help chi, rydym am gyrraedd mwy fyth.
Angen rhywfaint o ysbrydoliaeth? Dyma rai postiadau a graffigau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i’w gwneud mor hawdd â phosibl i chi rannu ein hymgyrch:
Enghreifftiau o bostiadau cyfryngau cymdeithasol a graffeg ymgyrchu
Mynediad ar Google Docs
Os ydych chi’n cael trafferth cael mynediad i’r rhain, anfonwch e-bost at communications@south-wales.police.uk a byddwn yn hapus i helpu.
Rhannwch ein posteri A4 a thaflenni A5
Posteri A4 a thaflenni A5
Mynediad ar Google Drive
Defnyddiwch ein hadnoddau i gychwyn sgyrsiau
Dangosodd ein hymchwil fod pobl ifanc yn fwy tebygol o wrando ar rywun y gallant ymddiried ynddo, boed hynny’n athro, yn weithiwr ieuenctid neu’n rhywun y maent yn agos ato.
Ddim yn gwybod ble i ddechrau siarad â phobl ifanc? Gallwch ddod o hyd i adnoddau addysg pwrpasol ar gyfer athrawon, yn ogystal â rhieni a gweithwyr ieuenctid, i’ch cefnogi i roi mwy o wybodaeth i chi’ch hun ac eraill am beryglon troseddau cyllyll.
Rhannwch y wefan
Os oes gennych bryderon am droseddau cyllyll, o ran chi eich hun neu rywun rydych yn ei adnabod, mae ein gwefan yn cynnig ffyrdd y gallwch gael gafael ar gymorth cyfrinachol. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â rhywun.