Troseddau cyllyll yn y DU: Cwis i bobl ifanc
Nod y cwis hwn yw addysgu ac annog trafodaeth feddylgar ynglŷn â throseddau cyllyll a’u heffeithiau. Pan fyddwch wedi datgelu’r atebion, efallai y bydd hefyd yn ddefnyddiol trafod y rhesymeg sy’n sail iddynt er mwyn ysgogi trafodaeth bellach.
Cwestiynau
1. Gwir neu Anwir: Mae cario cyllell er mwyn amddiffyn eich hun yn gyfreithlon yn y DU.
2. Beth yw’r isafswm oedran ar gyfer prynu cyllell yn gyfreithlon yn y DU?
a) 16 oed
b) 18 oed
c) 21 oed
d) Nid oes isafswm oedran
3. Pa un o’r canlynol sy’n cael ei ystyried yn ‘rheswm da’ yn ôl y gyfraith dros gario cyllell mewn lleoedd cyhoeddus?
a) Fel rhan o’ch swydd
b) Fel rhan o wisg ar gyfer drama
c) Am resymau crefyddol
d) Pob un o’r uchod
4. Os bydd rhywun yn cario cyllell heb reswm da, beth allai’r canlyniad posibl fod?
a) Rhybudd
b) Dedfryd o garchar
c) Gwasanaeth cymunedol
d) Pob un o’r uchod
5. Beth ddylech chi ei wneud os bydd rhywun rydych chi’n ei adnabod yn cario cyllell?
a) Mynd at y person yn uniongyrchol
b) Anwybyddu’r mater gan nad yw’n ddim o’ch busnes chi
c) Rhoi gwybod i oedolyn dibynadwy neu’r heddlu
d) Ei herio i roi’r gorau i’w chario
6. Gwir neu Anwir: Mae un o bob 10 o bobl ifanc yn cario cyllell yn y DU.
7. Beth yw’r rheswm mwyaf cyffredin y mae pobl ifanc yn ei roi dros gario cyllell?
a) Er mwyn gwella hyder a hunan-barch
b) Hunanamddiffyniad neu ofn
c) Coginio
d) Er mwyn dynwared cymeriadau mewn ffilmiau neu ar y teledu
8. Beth yw canlyniad posibl troseddau cyllyll i gymunedau?
a) Mwy o ofn a phryder
b) Llai o weithgarwch busnes
c) Llai o ymddiriedaeth mewn mesurau diogelwch cymunedol
d) Dim un o’r uchod
9. Pa un neu rai o’r rhain sy’n ffordd effeithiol o osgoi ymwneud â throseddau cyllyll?
a) Cario cyllell ar gyfer amddiffyniad
b) Ymuno â chlwb ieuenctid lleol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol
c) Osgoi siarad am y mater
d) Pob un o’r uchod
10. Â pha fath arall o droseddau y bydd troseddau cyllyll yn gysylltiedig gan amlaf?
a) Tipio anghyfreithlon
b) Delio mewn cyffuriau
c) Goryrru
d) Pob un o’r uchod
Atebion
1. Anwir.
Rhagor o wybodaeth: Nid yw hunanamddiffyniad byth yn rheswm derbyniol dros gario arf anghyfreithlon yn ôl cyfraith y DU.
2. b) 18 oed.
Rhagor o wybodaeth: Fodd bynnag, mae bob amser yn anghyfreithlon prynu a gwerthu arf anghyfreithlon, faint bynnag fo’ch oedran.
3. d) Pob un o’r uchod.
Rhagor o wybodaeth: Efallai y bydd llys yn penderfynu a yw’r rhain yn ‘rhesymau da’ os cewch eich cyhuddo o’i chario’n anghyfreithlon.
4. d) Pob un o’r uchod.
Rhagor o wybodaeth: Gallwch gael eich gorfodi i dalu dirwy ddiderfyn hefyd.
5. c) Rhoi gwybod i oedolyn dibynadwy neu’r heddlu.
Rhagor o wybodaeth: Mae’n bwysig peidio â’ch rhoi eich hun nac eraill mewn perygl drwy fynd at y person neu drwy beidio â dweud dim byd.
6. Anwir.
Rhagor o wybodaeth: Mae’r ystadegyn yn agosach at 1 o bob 100 mewn gwirionedd, ond mae’n gyffredin i bobl feddwl bod cario cyllell yn fwy cyffredin nag ydyw mewn gwirionedd.
7. b) Hunanamddiffyniad neu ofn.
Rhagor o wybodaeth: Er y gallai’r rhesymau eraill fod yn berthnasol, dyma’r rheswm mwyaf cyffredin o bell ffordd pam y byddai person ifanc yn cario cyllell anghyfreithlon mewn lle cyhoeddus.
8. a) Mwy o ofn a phryder.
Rhagor o wybodaeth: Gallai pob un o’r canlyniadau hyn fod yn wir, ond mwy o ofn a phryder yw’r canlyniad y bydd cymunedau’n cyfeirio ato amlaf.
9. c) Ymuno â chlwb ieuenctid lleol neu gymryd rhan mewn gweithgareddau cymunedol.
Rhagor o wybodaeth: Gall y gweithgareddau hyn gynyddu eich hyder a’ch hunan-barch a helpu i’ch cadw draw oddi wrth y llwybrau cyffredin tuag at droseddau cyllyll.
10. b) Delio mewn cyffuriau
Rhagor o wybodaeth: Dros y blynyddoedd diwethaf, mae cysylltiad agos wedi bod rhwng troseddau cyffuriau fel ‘llinellau cyffuriau’ a throseddau cyllyll.