Sut i gael sgwrs â phobl ifanc am gyllyll

Cadw mewn cysylltiad

If you want to hear about the work we’re doing to prevent knife crime in South Wales, please give us your details. (You don’t need to do this in order to access the resources.)

(We’ll never pass your details onto a third party.)

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices.

Gweld fersiwn addas i'r argraffydd

Ysgrifennwyd gan Claire, gweithiwr ieuenctid arbenigol gydar Prosiect Cynnydd.

Gall fod yn heriol dechrau sgwrs am gario cyllyll. Er hynny, fel rhiant, gwarcheidwad neu rywun sy’n gweithio gyda phobl ifanc, rydych yn cyflawni rôl bwysig o ran diogelwch a llesiant pobl ifanc.

Mae’r canllaw hwn yn seiliedig ar 25 mlynedd o brofiad sydd gen i o helpu pobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau cyllyll a chyffuriau. Bydd yn eich helpu i siarad â pherson ifanc rydych yn poeni amdano mewn ffordd ddefnyddiol a syml.

Creu’r amgylchedd cywir

Dechreuwch drwy ddewis lleoliad cyfforddus a phreifat lle y bydd y ddau ohonoch yn teimlo’n gartrefol. Bydd amgylchedd digynnwrf yn eich annog i gyfathrebu’n agored ac yn onest. Dewiswch amser pan fydd y ddau ohonoch wedi ymlacio, gan ganiatáu digon o amser am drafodaeth feddylgar ac ystyrlon.

Esboniwch eich pryderon

  • Mynegwch eich pryder ynglŷn â llesiant y person ifanc: Dechreuwch drwy ddatgan mai eich prif bryder yw ei ddiogelwch a’i hapusrwydd. Mae’r sgwrs hon yn deillio o gariad ac awydd i’w amddiffyn.
  • Trafodwch y risgiau: Mae’n hanfodol cyfleu bod cario cyllell yn arwain at fwy o berygl, nid diogelwch. Gall cario cyllell arwain at sefyllfaoedd peryglus a thrafferthion cyfreithiol a fydd yn effeithio ar eich rhagolygon o ran swyddi yn y dyfodol.
  • Ceisiwch ddeall ei safbwynt: Bydd llawer o bobl ifanc yn cario cyllyll oherwydd ofn. Anogwch y person ifanc i rannu ei bryderon yn agored. Pwysleisiwch fod teimlo’n ofnus yn beth normal, ond nad cario cyllell yw’r ateb.

Gwrandewch a datryswch broblemau gyda’ch gilydd

Rhowch le i’r person ifanc rannu ei feddyliau a’i deimladau. Gofynnwch gwestiynau penagored a rhowch gyfle iddo esbonio ei deimladau a’i feddyliau. Gyda’ch gilydd, trafodwch atebion i’r problemau y bydd yn eu codi, a ffyrdd y gall deimlo’n fwy diogel.

Pwysleisiwch bwysigrwydd dewisiadau

  • Dod o hyd i ffordd ymlaen: Ar gyfer y rhai sydd eisoes yn cario cyllell neu’n ymwneud â rhyw fath o droseddau, pwysleisiwch ei bod bob amser yn bosibl rhoi’r gorau iddi. Trafodwch y systemau cymorth a’r adnoddau sydd ar gael, ynghyd â phobl benodol y gall y person ifanc droi atynt, fel athro, gweithiwr ieuenctid neu aelod o’r teulu y mae’n ymddiried ynddo.
  • Dewrder ffug a phŵer cerdded i ffwrdd: Siaradwch am y cysyniad o “ddewrder ffug”. Efallai fod cario cyllell yn gwneud i rywun deimlo’n bwerus, ond twyll peryglus yw hyn. Yn aml, caiff dewrder gwirioneddol ei ddangos drwy ddewis cerdded i ffwrdd oddi wrth sefyllfa wrthdrawol, yn enwedig pan fydd gan rywun arall arf.

Gwnewch eich gorau i ateb unrhyw gwestiynau

Bydd yr adnodd gwybod y ffeithiau yn y pecyn hwn yn eich helpu i ddeall y mater hwn, ac mae’n cynnwys dolenni i ragor o wybodaeth. Os na allwch ateb unrhyw gwestiynau, efallai yr hoffech gydweithio â’ch gilydd i ddod o hyd i’r atebion ar-lein.

Casgliad

Nid dim ond rhybuddio’r person ifanc am y peryglon fydd nod y sgwrs hon – bydd hefyd yn ceisio meithrin ymddiriedaeth a dealltwriaeth. Eich rôl chi yw arwain, cefnogi a grymuso’r person ifanc i wneud penderfyniadau mwy diogel a doeth.

Meddyliwch am y sgwrs hon fel y cam cyntaf ar daith y byddwch yn mynd arni gyda’ch gilydd i’w gadw’n ddiogel.

Cymorth sydd ar gael i bobl ifanc

Mae digonedd o gynlluniau ac adnoddau ar gael sydd â’r nod o helpu person ifanc sy’n wynebu risg o gario cyllell neu ymwneud â throseddau yn fwy cyffredinol. Dyma rai enghreifftiau:

  • St GilesMae St Giles wedi bod wrth wraidd helpu pobl ifanc sydd wedi’u dal mewn achos o gamfanteisio ar linellau cyffuriau am bron i 10 mlynedd.
  • Prosiect Cynnydd – Mae Prosiect Cynnydd yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 11 oed a 24 oed sy’n wynebu risg o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET). Nod y prosiect hwn, dan arweiniad Cyngor Sir Benfro, yw helpu pobl ifanc i oresgyn neu reoli unrhyw faterion sy’n cyfrannu at eu rhesymau dros ddatgysylltu o addysg brif ffrwd.
  • Braver Choices – Rhaglen a gaiff ei chynnal gan Media Academy Cymru sy’n cefnogi plant a phobl ifanc sy’n defnyddio arfau neu sy’n wynebu risg o wneud hynny. Rhagor o wybodaeth: https://mediaacademycymru.wales/braver-choices/
  • Rhaglen Premier League Kicks – Mae’r rhaglen hon yn creu cyfleoedd i bobl ifanc sy’n wynebu risg o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais ymhlith pobl ifanc a/neu bobl ifanc o ardaloedd anghenus i gymryd rhan mewn cyfleoedd ym meysydd pêl-droed, chwaraeon, mentora a datblygiad personol. Kicks Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd: https://cardiffcityfcfoundation.org.uk/our-projects/project/kicks. Kicks Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe: https://www.swanseacity.com/sports-participation/premier-league-kicks
  • Darpariaeth Ieuenctid Gwasanaeth Tân ac Achub Cymru Gyfan – Mae’n cynnal amrywiaeth o raglenni ymyriadau ieuenctid sydd wedi’u bwriadu ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed. Mae’r rhaglenni’n gweithio i sicrhau y gwrandewir ar blant a phobl ifanc a’u bod yn cael y cymorth a’r addysg iawn i’w helpu i wneud penderfyniadau cadarnhaol. Rhagor o wybodaeth: https://cymruhebdrais.com/astudiaeth-achos/reflect-hyrwyddo-anghenion-plant-a-phobl-ifanc/
  • Childline – Gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim lle y gallwch drafod unrhyw beth. Ni fydd Childline yn datgelu gwybodaeth ac mae’n gallu atgyfeirio pobl ifanc at wasanaethau ieuenctid lleol lle y gallant gael cymorth wedi’i deilwra. Ffoniwch 0800 1111 neu ewch i childline.org.uk/get-support
  • Fearless. org – Gwefan lle y gallwch gael gwybodaeth a chyngor anfeirniadol am droseddau a throseddoldeb yw Fearless. Yr hyn sy’n gwneud y wefan hon yn wahanol yw ei bod hefyd yn cynnig lle diogel i chi roi gwybodaeth i ni am droseddau yn gwbl ddienw. Rhagor o wybodaeth: www.fearless.org
  • Meic – Meic yw’r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. O gael gwybod beth sy’n digwydd yn yr ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfa anodd, bydd Meic yn gwrando heb feirniadu ac yn rhoi cymorth drwy rannu gwybodaeth a chyngor defnyddiol. Rhagor o wybodaeth: www.meiccymru.org/
Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.