Rheoli gwrthdaro: Ymarferion i bobl ifanc

Mae pryderon ynglŷn â diogelwch personol yn rheswm hollbwysig a all gymell person ifanc i gario cyllell. Mae’r adnodd hwn yn canolbwyntio ar helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau datrys gwrthdaro er mwyn eu helpu i ddelio â gwrthdaro a lleihau’r tebygolrwydd y bydd sefyllfa’n troi’n dreisgar. Ceir dolenni i adnoddau pellach ar ddiwedd y ddogfen.

Beth yw gwrthdaro?

Mae gwrthdaro’n rhan arferol o fywyd. Bydd yn digwydd pan fydd dau neu fwy o bobl yn methu â chanfod ffordd o ddatrys anghytundeb mewn modd heddychlon. Gall fod yn anghydfod bach neu’n elyniaeth fwy hirdymor. Heb gytundeb cyfeillgar, gall arwain at fwlio, chwalu cydberthnasau a theuluoedd, neu hyd yn oed drais.

Beth yw datrys gwrthdaro?

Mae’n bwysig peidio ag osgoi gwrthdaro, ond datblygu’r sgiliau i’w ddatrys. Dull o ddatrys anghytundeb mewn modd heddychlon a’i atal rhag gwaethygu yw datrys gwrthdaro. Ymhlith yr elfennau allweddol o ddatrys gwrthdaro mae:

  • Empathi: Deall safbwynt ac anghenion person neu grŵp arall yn ogystal â’ch safbwynt a’ch anghenion eich hun.
  • Cyfathrebu: Trafod eich meddyliau a’ch teimladau’n agored a gwrando â pharch pan fydd y person arall yn gwneud yr un peth.
  • Canfod tir cyffredin: Mae’n hawdd dod o hyd i wahaniaethau mewn gwrthdaro, ond beth sy’n uno pawb?
  • Cytuno ar atebion: Cydweithio i gytuno ar atebion sy’n parchu anghenion pawb, hyd yn oed os bydd angen cyfaddawdu.

Gall hyn fod yn berthnasol i achosion cyffredin o anghytuno rhwng brodyr a chwiorydd, neu hyd yn oed wrthdaro rhyngwladol ar raddfa fwy.

Datrys gwrthdaro a phobl ifanc

Mae’r glasoed yn gyfnod o dwf emosiynol a chymdeithasol aruthrol. Mae datrys gwrthdaro yn sgìl bywyd hanfodol i bob person ifanc ei ddysgu. Gall eu helpu i ymdopi â heriau cymdeithasol, meithrin empathi, a datblygu sgiliau cyfathrebu a datrys problemau effeithiol.

Ymarferion rheoli gwrthdaro

Mae’r ymarferion hyn wedi’u dylunio er mwyn helpu oedolion i addysgu pobl ifanc rhwng 11 ac 16 oed am elfennau craidd datrys gwrthdaro. Gallant gael eu cynnal rhwng rhiant neu warcheidwad a phlentyn, neu fel rhan o grŵp mwy o bobl ifanc.

Ymarfer 1: Chwarae rôl – Gwrthdaro mewn parti

Amcan: Dysgu sut i ddad-ddwysáu sefyllfa a allai fod yn beryglus.

Senario: Mae dau unigolyn mewn parti yn ffraeo, ac mae’r sefyllfa’n dwysáu tuag at drais.

Cyfarwyddiadau

  1. Mewn grwpiau, ewch ati i actio’r senario.
  2. Bydd person arall yn chwarae rôl cyfryngwr, gan geisio dad-ddwysáu’r sefyllfa.
  3. Trafodwch sut y gall y cyfryngwr ddefnyddio sgiliau fel empathi, gwrando, a chanfod tir cyffredin i atal y sefyllfa rhag dwysáu.

Os byddwch yn teimlo’n anghyfforddus yn chwarae rôl, gallwch drafod y senario ac ysgrifennu eich meddyliau mewn map meddwl.

Ymarfer 2: Trafodaeth grŵp – Bwrw’r bai

Amcan: Dysgu beth yw effaith bai a sut i gyfathrebu’n effeithiol.

Cyfarwyddiadau

  1. Trafodwch senario lle y cafodd rhywun fai ar gam am rywbeth gartref neu yn yr ysgol.
  2. Siaradwch am y ffordd y gall bai effeithio ar deimladau person a gwneud sefyllfa’n waeth.
  3. Archwiliwch y gwahanol ffyrdd y gallwch drafod problemau heb bwyntio bys a beio’r person arall.

Efallai y bydd yn ddefnyddiol ysgrifennu eich syniadau a’ch atebion.

Ymarfer 3: Cylch emosiwn

Amcan: Adnabod a pharchu gwahanol emosiynau mewn gwrthdaro.

Cyfarwyddiadau

  1. Rhannwch yn barau. Bydd un person yn nodi emosiwn sy’n gyffredin mewn gwrthdaro, e.e. dicter ac ofn.
  2. Bydd y person arall yn disgrifio adeg pan deimlodd yr emosiwn hwnnw a sut y dylanwadodd hynny ar ei weithredoedd.
  3. Cyfnewidiwch rolau ac ailadroddwch y camau.

Ymarfer 4: Cyfnewid safbwyntiau

Amcan: Meithrin empathi drwy weld gwrthdaro o safbwynt rhywun arall.

Cyfarwyddiadau

  1. Meddyliwch am achos cyffredin o wrthdaro (e.e. anghytuno rhwng rhiant a phlentyn ynglŷn â gwaith tŷ ar ôl diwrnod blinderus).
  2. Trafodwch safbwyntiau’r naill berson a’r llall yn y sefyllfa. Wedyn, trafodwch sut y gall y naill berson weld safbwynt y llall. Gofynnwch i chi eich hun: Sut mae’r naill berson a’r llall yn teimlo?
  3. Trafodwch sut y gallant gytuno ar gyfaddawd sy’n seiliedig ar ddeall safbwynt ac anghenion y naill berson a’r llall.

Ymarfer 5: Diagram gwasgariad atebion

Amcan: Annog datrys problemau mewn ffordd greadigol mewn gwrthdaro

Cyfarwyddiadau

  1. Meddyliwch am achos o wrthdaro neu un y cawsoch brofiad ohono yn y gorffennol.
  2. Lluniwch fap meddwl neu ddiagram gwasgariad er mwyn dod o hyd i atebion mewn grwpiau neu barau, ac ysgrifennwch eich meddyliau.
  3. Trafodwch fanteision ac anfanteision pob ateb.

Adnoddau pellach ar gyfer rheoli gwrthdaro

  • Sefydliad Tim Parry a Jonathan Ball: Mae’n gweithio gydag ysgolion, cymunedau, yr heddlu ac awdurdodau lleol, gan helpu unigolion a grwpiau i ddatrys gwrthdaro drwy ddeialog a thechnegau datrys gwrthdaro.
  • CRESST: Mae’n grymuso pobl ifanc a’r oedolion sy’n gweithio gyda nhw drwy eu helpu i ddatblygu’r sgiliau i ddatrys gwrthdaro mewn modd adeiladol.
  • YoungMinds: Mae’n cynnig adnoddau iechyd meddwl i bobl ifanc, gan gynnwys ar gyfer delio ag anghytundebau.
  • The Mix: Mae’n cynnig cymorth i bobl ifanc o dan 25 oed ar amrywiaeth o faterion, gan gynnwys rheoli gwrthdaro.
Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.