Ar gyfer rhieni a gweithwyr ieuenctid

Croeso i becyn addysg #DdimYrUn i rieni, gwarcheidwaid a gweithwyr ieuenctid.

Nod #DdimYrUn, a lansiwyd yn Ne Cymru yn 2022, yw lleihau troseddau cyllyll gan bobl ifanc drwy ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth gan arbenigwyr i greu negeseuon sy’n taro tant ymhlith pobl ifanc.

Mae’r pecyn hwn wedi’i ddylunio er mwyn helpu oedolion i ddeall y mater yn well ac ymgysylltu â phobl ifanc. Y nod yw helpu i addysgu a grymuso pobl ifanc, gan ei gwneud yn glir y byddant yn fwy diogel heb gario cyllell.

Archwiliwch yr adnoddau ar gyfer rhieni a gweithwyr ieuenctid

Troseddau Cyllyll: Gwybod y ffeithiau

Trosolwg manwl o droseddau cyllyll yn y DU, gan gynnwys y gyfraith, ystadegau, a'r effaith ar bobl ifanc.

Sut i gael sgwrs â phobl ifanc am gyllyll

Cyngor ymarferol ar sut i gychwyn a chynnal trafodaethau am droseddau cyllyll gyda phobl ifanc.

Ymarferion trafod: Cost cario cyllell

Casgliad o ymarferion rhyngweithiol sy'n archwilio canlyniadau ehangach cario cyllell a sut i gefnu ar y ffordd hon o fyw.

Rheoli gwrthdaro: Ymarferion i bobl ifanc

Ymarferion sy'n canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o ymdrin â gwrthdaro a'i ddatrys, boed yn yr ysgol, gartref, neu mewn lleoliadau cymdeithasol eraill.

Troseddau cyllyll yn y DU: Cwis i bobl ifanc

Cwis byr am droseddau cyllyll yn y DU er mwyn atgyfnerthu'r hyn a ddysgwyd a chysyniadau allweddol yn yr adnodd hwn.

Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.