Ymarferion trafod: Cost cario cyllell
Gan adeiladu ar yr adnoddau sydd yn y pecyn hwn hyd yma, mae’r ymarferion hyn yn dangos gwahanol brofiadau o droseddau cyllyll. Maent yn archwilio canlyniadau ehangach cario cyllell a’r gwahanol ffyrdd y gall person ifanc gefnu ar y ffordd hon o fyw.
Gwyliwch y fideos canlynol a thrafodwch y cwestiynau a gaiff eu gofyn. Gallent gael eu trafod rhwng rhiant/gwarcheidwad a pherson ifanc, neu mewn grŵp.
Rhybudd ynglŷn â’r cynnwys: Noder bod cynnwys y fideos hyn yn emosiynol iawn. Dylech arfer eich disgresiwn cyn eu gwylio a’u dangos i eraill.
Profiad Emma: “Fyddwn i ddim yn dymuno i hyn ddigwydd”
Hyd y fideo: 6 munud
Ym mis Awst 2019, cafodd mab Emma, Harry, ei drywanu i farwolaeth yn Nociau’r Barri. Roedd yn 17 oed. Yn y fideo hwn, mae Emma’n rhannu ei phrofiad a’r effaith y mae marwolaeth Harry wedi’i chael arni hi a’i theulu.
Cwestiynau i’w trafod:
- Sut roedd gwylio stori Emma yn gwneud i chi deimlo? Enwch rai o’r emosiynau sy’n dod i’r meddwl ac esboniwch pam.
- Beth yw rhai o’r rhesymau a arweiniodd at benderfyniad Harry i gario cyllell?
- Beth oedd canlyniadau penderfyniad Harry i gario cyllell i’w deulu?
- Beth wnaeth stori Emma wneud i chi feddwl am gario cyllell? A newidiodd eich agwedd neu eich safbwynt?
Profiad Wes: “Dylech wybod i ble rydych chi’n mynd os gwnewch chi hyn”
Hyd y fideo: 6 munid
Dechreuodd Wes ymwneud â chyffuriau pan oedd yn ei arddegau, a dechreuodd gario cyllell i amddiffyn ei hun. Un noson, ar y trên adref ar ôl dosbarthu cyffuriau y tu allan i’w ardal, sylwodd ar dri bachgen yn ei ddilyn. Fe wnaethon nhw redeg ar ei ôl, ei ddal a’i drywanu.
Ychydig ddiwrnodau yn ddiweddarach, ar ôl llawdriniaeth i achub ei fywyd, deffrodd yn yr ysbyty i wynebau llawn pryder ac ofn ei fam-gu a’i dad-cu.
Cwestiynau i’w trafod:
- Beth oedd y ffactorau a arweiniodd at benderfyniad Wes i gario cyllell?
- Beth rydych chi’n credu oedd teimladau mam-gu a thad-cu Wes am y ffaith ei fod wedi cael ei drywanu? Enwch rai o’r emosiynau roeddent yn eu teimlo o bosibl, a pham.
- Ym mha wahanol ffyrdd y mae profiad Wes wedi effeithio arno? Rhestrwch gynifer ag y gallwch feddwl amdanynt.
- Pam na wnaeth cario cyllell amddiffyn Wes pan oedd yn wynebu perygl?
Stori Day: “Achos y pethau roeddwn i wedi’u gwneud yn y gorffennol, fe ddigwyddodd hyn i fi”
Hyd y fideo: 5 munud
Rhybudd ynglŷn â’r cynnwys: Mae’r fideo hwn yn cyfeirio at drais rhywiol ac mae’n bosibl na fydd yn addas ar gyfer gwylwyr iau.
Roedd Dai yn adfer ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau ac alcohol pan gafodd ei alw i fflat yn Abertawe i roi benthyg arian i rywun. Tric oedd y cyfan. Wrth iddo adael yr adeilad, roedd pedwar o bobl yn aros amdano y tu allan i’r lifft ar y llawr gwaelod. Roedden nhw’n chwilio am gyffuriau.
Am 14 munud, fe wnaethon nhw ei dagu, ei guro, a’i drywanu.
Cwestiynau i’w trafod:
- Sut y gwnaeth cael ei drywanu effeithio ar Dai a’i wellhad o gam-drin sylweddau?
- Bydd pobl yn glamoreiddio delio â chyffuriau weithiau. Beth rydych chi’n credu roedd Dai yn ei olygu pan ddywedodd nad yw’n fêl i gyd (“not a bed of roses”)?
- Ym mha ffyrdd y mae bywyd Dai yn well ar ôl cefnu ar ei hen ffordd o fyw?
Stori Claire: “Mae yna bobl ar gael sy’n poeni”
Hyd y fideo: 5 munud 45 eiliad
Mae Claire yn weithiwr ieuenctid yn Ne Cymru sydd wedi treulio 25 mlynedd yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n ymwneud â throseddau cyllyll a chyffuriau, gan eu helpu i drawsnewid eu bywydau.
Mae’n esbonio bod ffordd i bobl ifanc gefnu ar y ffordd hon o fyw, ac i ble y gallant droi.
Cwestiynau i’w trafod:
- Sut y gallai gangiau fanteisio ar yr hyn sy’n gwneud person ifanc yn agored i niwed?
- Sut y gall cludo pecynnau ar ran y gangiau hyn ddatblygu’n rhywbeth mwy difrifol o weld profiad Claire gydag un person ifanc?
- Os bydd person ifanc yn dechrau ymwneud â gang a gweithgarwch troseddol, i be leoedd y gall droi am gymorth?
- Pa gyngor y byddech yn ei roi i berson ifanc arall a all fod yn ymwneud â throseddau cyllyll a chyffuriau?