Troseddau Cyllyll: Gwybod y ffeithiau

Mae troseddau cyllyll yn dinistrio bywydau ac yn difrodi cymunedau, ond mae modd eu hatal. Mae’n bwysig bod rhieni, gwarcheidwaid a phobl sy’n gweithio gyda phobl ifanc yn deall y ffeithiau ynglŷn â throseddau cyllyll, y gyfraith sy’n ymwneud â nhw, a strategaethau ar gyfer mynd i’r afael â’r mater hwn.

Nod yr adnodd hwn yw rhoi trosolwg o’r pwnc hwn a helpu pobl ifanc i wneud dewisiadau mwy diogel mewn bywyd.

Beth mae’r gyfriath yn ei ddweud

Mae’r gyfraith yn glir:

  • Mae’n anghyfreithlon cario arf ymosodol fel cyllell mewn lle cyhoeddus heb ‘reswm da’, hyd yn oed os nad ydych yn bwriadu ei ddefnyddio.
  • Y gosb fwyaf am gario cyllell yn anghyfreithlon yw naill ai pedair blynedd yn y carchar, dirwy ddiderfyn, neu’r ddau.
  • Ymhlith y rhesymau da posibl dros gario cyllell mae cario cyllell at ddibenion gwaith, cario cyllell am resymau crefyddol, neu gario cyllell boced sy’n llai na thair modfedd o hyd.
  • Fodd bynnag, bydd yn anghyfreithlon meddu ar gyllell gyfreithlon os caiff ei defnyddio i achosi anaf neu niwed.
  • Gall swyddogion yr heddlu stopio a chwilio unrhyw un os byddant yn credu ei fod yn cario arf.

Nid oes rhaid trywanu rhywun i fod wedi torri’r gyfraith. Yn unol â ‘Menter ar y Cyd’, gallech fynd i’r carchar am helpu neu annog rhywun i gyflawni trosedd sy’n ymwneud â chyllell.

Ffeithiau am bobl ifanc a throseddau cyllyll

Arwyddion y gall person ifanc fod yn cario cyllell

Mae adnabod arwyddion y gall person ifanc fod yn cario cyllell yn hanfodol er mwyn ymyrryd yn gynnar. Ymhlith yr arwyddion cyffredin mae:

  • Newidiadau mewn ymddygiad: Newidiadau sydyn neu sylweddol mewn ymddygiad, fel mynd yn dawedog, yn ymosodol, neu’n gyfrinachgar.
  • Newidiadau mewn ffrindiau a chysylltiadau: Os bydd person ifanc yn dechrau ymwneud â ffrindiau newydd a grwpiau nad ydych wedi clywed amdanynt na chwrdd â nhw o’r blaen.
  • Perfformiad academaidd: Gall dirywiad sydyn mewn perfformiad academaidd neu ddiddordeb mewn gwaith ysgol hefyd fod yn arwydd.

Fodd bynnag, mae’n bwysig peidio â neidio i gasgliadau hyd yn oed os byddwch yn sylwi ar yr arwyddion hyn. Mae’r pecyn hwn yn cynnwys canllaw ar siarad â pherson ifanc am droseddau cyllyll a all eich helpu i godi’r pwnc os byddwch yn pryderu.

Pŵer sgwrsio

Mae cydberthnasau’n rhan hollbwysig o benderfyniad person ifanc i gario cyllell. Gall siarad â phobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n bwysig i chi, wneud gwahaniaeth mawr. Gall cyfathrebu agored a gonest wneud y canlynol:

  • Meithrin ymddiriedaeth: Mae’n helpu i feithrin ymddiriedaeth rhyngoch chi a pherson ifanc, gan ei gwneud yn fwy tebygol y bydd yn rhannu pethau â chi.
  • Rhoi arweiniad: Bydd sgyrsiau’n eich galluogi i roi arweiniad, rhannu gwybodaeth, a helpu person ifanc i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth.
  • Cynnig cymorth: Gallwch gynnig cymorth emosiynol a sicrwydd eich bod yno i’r person ifanc, hyd yn oed pan fydd yn gwneud camgymeriadau.
  • Cynnig opsiynau eraill: Yn hytrach na dychryn person ifanc ynglŷn â pheryglon cyllyll, rydych mewn sefyllfa ardderchog i awgrymu opsiynau cadarnhaol a gwella ei hunan-barch.

Cofiwch y dylai’r sgyrsiau hyn fod yn anfeirniadol a chanolbwyntio ar ddeall safbwyntiau a phryderon y person ifanc. Yn nes ymlaen yn yr adnodd hwn, bydd canllaw manylach ar gael sgyrsiau gyda phobl ifanc ynglŷn â chario cyllell.

Cymorth ac Arweiniad

Dyma rai adnoddau defnyddiol ar eich cyfer chi a phobl ifanc.

  • Ymddiriedolaeth Ben Kinsella – Adnoddau ac arweiniad am ddim i rieni, gofalwyr, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc: benkinsella.org.uk
  • Family Lives – Mae’n cynnig arweiniad a chymorth ar bob agwedd ar fagu plant, a hynny 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 0808 800 2222 am ddim neu ewch i familylives.org.uk
  • NSPCC – Mae’n cynnig cymorth a llinell gymorth am ddim i rieni a gwarcheidwaid sy’n pryderu am bobl ifanc sy’n ymwneud â gweithgarwch troseddol. Rhadffôn: 0808 800 5000. E-bost: help@nspcc.org.uk Gwefan: nspcc.org.uk
  • Meic – Llinell gymorth ddienw a chyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc. Ffoniwch 080880 23456 am ddim unrhyw ddiwrnod rhwng 08:00 a hanner nos. Gallwch siarad ar-lein un i un ag aelod o’r tîm rhwng 08:00 a hanner nos. Anfonwch neges destun i 84001 unrhyw bryd – mae am ddim ac ni fydd yn ymddangos ar eich bil ffôn. Ewch i wefan Meic i gael cymorth: meiccymru.org/cym/tudalen-cael-help
  • Childline – Gwasanaeth preifat a chyfrinachol am ddim lle y gallwch drafod unrhyw beth. Ffoniwch 0800 1111 neu ewch i wefan Childline i gael cymorth: childline.org.uk/get-support
  • Fearless.org – Gwefan lle y gallwch gael gwybodaeth a chyngor anfeirniadol am droseddau a throseddoldeb yw Fearless. Yr hyn sy’n gwneud y wefan hon yn wahanol yw ei bod hefyd yn cynnig lle diogel i chi roi gwybodaeth i ni am droseddau yn gwbl ddienw. Rhagor o wybodaeth: www.fearless.org
  • Fframwaith Cymru Heb Drais – Drwy ddatblygu Fframwaith Cymru Heb Drais, mae plant, pobl ifanc a gweithwyr proffesiynol wedi mentro dychmygu cymdeithas lle y bydd pob un ohonom yn byw’n rhydd rhag trais. Mae’r Fframwaith yn cynnwys naw strategaeth an all fod yn ddefnyddiol os byddwch yn ystyried pa weithgareddau fyddai’n cefnogi plant a phobl ifanc orau. Rhagor o wybodaeth: cymruhebdrais.com

Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.