Cynllun gwers
Teitl y wers: Deall troseddau cyllyll
Dibenion perthnasol y cwricwlwm: Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Meysydd dysgu a phrofiad perthnasol: Iechyd a Lles; Y Dyniaethau
Elfen berthnasol o’r cwricwlwm ACRh: Grymuso, diogelwch a pharch.
Nodau’r sesiwn
-
Addysgu pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario cyllell
-
Deall canlyniadau troseddau cyllyll a’u heffaith ar deulu a ffrindiau
-
Archwilio opsiynau eraill yn lle cario cyllell a mynd i’r afael â phryderon diogelwch
-
Meithrin gwydnwch ymhlith pobl ifanc a datblygu sgiliau datrys gwrthdaro.
Sut i gynnal y wers
Dylech ddechrau fel dosbarth cyfan, yna rannu’n grwpiau llai ar gyfer yr amrywiol ymarferion trafod a chwarae rôl.
Gweithgareddau ac amseroedd
Noder: Rhaid briffio’r cyfranogwyr bod cynnwys y fideos hyn yn emosiynol iawn. Dylech arfer eich barn broffesiynol wrth benderfynu a yw’r adnodd hwn yn addas i’r bobl ifanc yn eich lleoliad.
Gweithgaredd un
Teitl: Trosedd Cyllell: Gwybod y ffeithiau
Amser: 10 mun
Gweithgaredd hwylusydd
Yn gyntaf, bydd yr hyfforddwr yn cyflwyno’r fideo rhagarweiniol i’r cyfranogwyr ac yna’n mynd drwy’r cyflwyniad PowerPoint gan esbonio’r ffeithiau am droseddau cyllyll.
Gweithgaredd cyfranogwr
- Gwrando
- Trafod
- Gofyn ac ateb cwestiynau
Gweithgaredd dau
Teitl: Cost cario cyllell: Gwylio a thrafod
Amser: 20 mun
Gweithgaredd hwylusydd
Gan barhau â’r cyflwyniad, rhannwch eich dosbarth yn grwpiau cyn dangos rhai o’r fideos neu bob un ohonynt. Rhowch fideo i bob grŵp a gofynnwch iddynt ateb y cwestiynau ar y sleidiau. Wedyn bydd pob un o’r grwpiau’n adrodd yn ôl gan roi eu hatebion.
Gweithgaredd cyfranogwr
- Gwyliwch y fideos
- Trafodwch y cwestiynau
- Adroddwch yn ôl i’r grŵp ehangach
Gweithgaredd tri
Teitl: Rheoli gwrthdaro: Ymarferion i bobl ifanc
Amser: 20 mun
Gweithgaredd hwylusydd
Rhowch un o’r pum ymarfer i bob grŵp. Gofynnwch iddynt adrodd yn ôl ar y diwedd.
Gweithgaredd cyfranogwr
- Darllenwch yr ymarfer.
- Trafodwch a pharatowch eich atebion.
- Adroddwch yn ôl i’r grŵp ehangach.
Gweithgaredd pedwar
Teitl: Cwis
Amser: 10 mun
Gweithgaredd hwylusydd
Mewn grwpiau neu fel unigolion, bydd yr hwylusydd yn cyflawni rôl yr holwr ac yn darllen pob cwestiwn. Gofynnwch i’r cyfranogwyr gyfnewid eu taflenni atebion wrth i chi ddarllen yr atebion ar y diwedd.
Gweithgaredd cyfranogwr
- Gwrandewch ac atebwch y cwestiynau.
- Marciwch atebion rhywun arall.