Cynllun gwers

Cadw mewn cysylltiad

If you want to hear about the work we’re doing to prevent knife crime in South Wales, please give us your details. (You don’t need to do this in order to access the resources.)

(We’ll never pass your details onto a third party.)

You can unsubscribe at any time by clicking the link in the footer of our emails.

We use Mailchimp as our marketing platform. By clicking below to subscribe, you acknowledge that your information will be transferred to Mailchimp for processing. Learn more about Mailchimp's privacy practices.

Gweld fersiwn addas i'r argraffydd

Teitl y wers: Deall troseddau cyllyll

Dibenion perthnasol y cwricwlwm: Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd; Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

Meysydd dysgu a phrofiad perthnasol: Iechyd a Lles; Y Dyniaethau

Elfen berthnasol o’r cwricwlwm ACRh: Grymuso, diogelwch a pharch.

Nodau’r sesiwn

  • Addysgu pobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario cyllell
  • Deall canlyniadau troseddau cyllyll a’u heffaith ar deulu a ffrindiau
  • Archwilio opsiynau eraill yn lle cario cyllell a mynd i’r afael â phryderon diogelwch
  • Meithrin gwydnwch ymhlith pobl ifanc a datblygu sgiliau datrys gwrthdaro.

Sut i gynnal y wers

Dylech ddechrau fel dosbarth cyfan, yna rannu’n grwpiau llai ar gyfer yr amrywiol ymarferion trafod a chwarae rôl.

Gweithgareddau ac amseroedd

Noder: Rhaid briffio’r cyfranogwyr bod cynnwys y fideos hyn yn emosiynol iawn. Dylech arfer eich barn broffesiynol wrth benderfynu a yw’r adnodd hwn yn addas i’r bobl ifanc yn eich lleoliad.

Gweithgaredd un

Teitl: Trosedd Cyllell: Gwybod y ffeithiau

Amser: 10 mun

Gweithgaredd hwylusydd

Yn gyntaf, bydd yr hyfforddwr yn cyflwyno’r fideo rhagarweiniol i’r cyfranogwyr ac yna’n mynd drwy’r cyflwyniad PowerPoint gan esbonio’r ffeithiau am droseddau cyllyll.

Gweithgaredd cyfranogwr

  • Gwrando
  • Trafod
  • Gofyn ac ateb cwestiynau

Gweithgaredd dau

Teitl: Cost cario cyllell: Gwylio a thrafod

Amser: 20 mun

Gweithgaredd hwylusydd

Gan barhau â’r cyflwyniad, rhannwch eich dosbarth yn grwpiau cyn dangos rhai o’r fideos neu bob un ohonynt. Rhowch fideo i bob grŵp a gofynnwch iddynt ateb y cwestiynau ar y sleidiau. Wedyn bydd pob un o’r grwpiau’n adrodd yn ôl gan roi eu hatebion.

Gweithgaredd cyfranogwr

  • Gwyliwch y fideos
  • Trafodwch y cwestiynau
  • Adroddwch yn ôl i’r grŵp ehangach

Gweithgaredd tri

Teitl: Rheoli gwrthdaro: Ymarferion i bobl ifanc

Amser: 20 mun

Gweithgaredd hwylusydd

Rhowch un o’r pum ymarfer i bob grŵp. Gofynnwch iddynt adrodd yn ôl ar y diwedd.

Gweithgaredd cyfranogwr

  • Darllenwch yr ymarfer.
  • Trafodwch a pharatowch eich atebion.
  • Adroddwch yn ôl i’r grŵp ehangach.

Gweithgaredd pedwar

Teitl: Cwis

Amser: 10 mun

Gweithgaredd hwylusydd

Mewn grwpiau neu fel unigolion, bydd yr hwylusydd yn cyflawni rôl yr holwr ac yn darllen pob cwestiwn. Gofynnwch i’r cyfranogwyr gyfnewid eu taflenni atebion wrth i chi ddarllen yr atebion ar y diwedd.

Gweithgaredd cyfranogwr

  • Gwrandewch ac atebwch y cwestiynau.
  • Marciwch atebion rhywun arall.
Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.