Ar gyfer athrawon

Mae’r adnoddau addysg #DdimYrUn hyn i’w defnyddio mewn ystafell  ddosbarth.

Lansiwyd yn Ne Cymru yn 2022, nod #DdimYrUn yw lleihau troseddau  
cyllyll gan bobl ifanc drwy ddefnyddio tystiolaeth a gwybodaeth gan arbenigwyr i greu negeseuon sy’n taro tant ymhlith pobl ifanc.

Mae’r adnoddau addysg hyn wedi’u cynllunio i helpu athrawon i ddeall y
mater yn well a bod yn fwy hyderus ynghylch ymgysylltu â phobl ifanc.

Y nod yw helpu i addysgu a grymuso pobl ifanc, gan ei gwneud yn glir y
byddant yn fwy diogel heb gario cyllell. Mae’n becyn cymorth cynhwysfawr sydd wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â throseddau cyllyll trwy addysg, sgwrsio a meithrin sgiliau ymarferol.

Rydym yn eich annog i ddefnyddio’r adnoddau hyn i greu amgylchedd

mwy diogel a mwy ymwybodol i’n pobl ifanc.

Archwiliwch yr adnoddau ar gyfer athrawon

Cynllun gwers

Gwelwch amlinelliad o sut i redeg sesiwn #DdimyrUn yn eich ystafell ddosbarth.

Troseddau Cyllyll: Gwybod y ffeithiau

Trosolwg manwl o droseddau cyllyll yn y DU, gan gynnwys y gyfraith, ystadegau, a'r effaith ar bobl ifanc.

Ymarferion trafod: Cost cario cyllell

Casgliad o ymarferion rhyngweithiol sy'n archwilio canlyniadau ehangach cario cyllell a sut i gefnu ar y ffordd hon o fyw.

Rheoli gwrthdaro: Ymarferion i bobl ifanc

Ymarferion sy'n canolbwyntio ar ffyrdd ymarferol o ymdrin â gwrthdaro a'i ddatrys, boed yn yr ysgol, gartref, neu mewn lleoliadau cymdeithasol eraill.

Troseddau cyllyll yn y DU: Cwis i bobl ifanc

Cwis byr am droseddau cyllyll yn y DU er mwyn atgyfnerthu'r hyn a ddysgwyd a chysyniadau allweddol yn yr adnodd hwn.

Headphones CY - For the best experience, this website uses sound

CY - Option for a little long-form, which probably won’t be needed, but handy to have the option all the same.